Frequently asked questions

Cymraeg

Gobeithiwn y bydd ein hymatebion i’r Cwestiynau Cyffredin hyn yn ddefnyddiol i unrhyw un sydd â diddordeb yn ein cynlluniau datblygu ar gyfer Penrhos a Chae Glas.

Beth yw’r datblygiad arfaethedig ym Mhenrhos a Chae Glas?

Yn 2016, yn dilyn ymgynghoriad helaeth â Chyngor Sir Ynys Môn, prynodd Land & Lakes Ystâd Penrhos, gan gynnwys Parc Arfordirol Penrhos, gyda chaniatâd cynllunio i ddatblygu pentref hamdden.

Mae’r caniatâd cynllunio yn cynnwys llety hamdden ychwanegol a gwarchodfa natur hygyrch i’r cyhoedd yng Nghae Glas, a 320 o dai newydd yn Kingsland gerllaw, a bydd 50% ohonynt ar gael i bobl leol fel cartrefi fforddiadwy.

Bydd y datblygiad newydd yn golygu cynnydd o 30% yn y tir sydd ar gael i’r cyhoedd 30%. Ym Mharc Arfordirol Penrhos, bydd 73 erw yn cael eu cadw i’r cyhoedd eu mwynhau. Gyda mynediad newydd i 100 erw ychwanegol yng Ngwarchodfa Natur Cae Glas, bydd cyfanswm o 173 erw o dir ar gael i’r cyhoedd.

Beth yw’r amcanion?

Gyda chyfleusterau awyr agored a dan do, a chysylltiadau sefydledig â darparwyr gweithgareddau ar draws yr ynys, bydd y pentref hamdden yn darparu gwyliau byr drwy gydol y flwyddyn i deuluoedd a chyplau. Bydd yn apelio at unrhyw un sy’n mwynhau bod yn actif mewn amgylchedd naturiol hardd a bydd yn darparu profiad o ansawdd i ymwelwyr ar Ynys Môn.

Ein nod yw dod â phobl yn agosach at natur, er mwyn rhoi profiad go iawn iddynt o’r awyr agored yng Nghymru. Mae pob manylyn o’n cynllun wedi’i gynllunio’n ofalus i warchod cymeriad amgylchedd naturiol eithriadol Ynys Môn.

Byddwn yn cynnal ac yn cadw llawer o’r mynediad cyhoeddus y mae’r gymuned leol yn ei fwynhau ar hyn o bryd, gan gynnwys mynediad i’r coetiroedd a’r llwybrau natur. Bydd gwell mynediad cyhoeddus i’r traethau a’r arfordir, a Llwybr Arfordirol Ynys Môn.

Bydd ein datblygiad yn darparu ystod eang o swyddi a chyfleoedd hyfforddi cynaliadwy, o reoli cefn gwlad i farchnata a lletygarwch. Rydym yn gwerthfawrogi gwybodaeth leol a rhanbarthol dda. Bydd y pentref hamdden yn cefnogi busnesau lleol yn uniongyrchol, yn ogystal â thrwy’r gadwyn gyflenwi leol, a bydd yn helpu economi Ynys Môn i dyfu a ffynnu am lawer mwy o flynyddoedd i ddod.

Oes gan y cynllun Ganiatâd Cynllunio?

Oes – cyhoeddwyd Hysbysiad o Benderfyniad yn 2016 ar gyfer caniatáu’r cynllun gyda’r Mater a Gadwyd yn Ôl cyntaf yn cael ei gymeradwyo ym mis Awst 2020 ar gyfer gwaith ym Mharc Arfordirol Penrhos.

Gwnaed dechrau effeithiol ar y gwaith datblygu ym Mhenrhos yn 2021, sy’n golygu bod y caniatâd cynllunio ar gyfer y safle bellach yn ddilys am byth.

A yw Caniatâd Cynllunio ar gyfer y cynllun hamdden ym Mharc Arfordirol Penrhos yn amodol ar ddatblygiad Cae Glas a Kingsland i gartrefu gweithwyr Wylfa?

Na – mae’r caniatâd ar gyfer Penrhos (gyda Gwarchodfa Natur newydd yng Nghae Glas) yn ‘annibynnol’ ac nid yw’n amodol ar godi tai ar gyfer gweithwyr Wylfa yng Nghae Glas neu Kingsland.

A yw’r amodau a’r rhwymedigaethau a106 sy’n ymwneud â thai gweithwyr Wylfa yn effeithio ar ddatblygiad cynllun hamdden Penrhos?

Na – mae’r amodau, a’r rhwymedigaethau dan a106 yn wahanol ar gyfer pob darn o dir. Bydd yr holl rwymedigaethau dan a106 yn cael eu cyflawni’n llawn fel y nodir yn y caniatâd cynllunio.

Oes rhaid i chi ddatblygu y tri safle (Penrhos, Cae Glas a Kingsland) ar yr un pryd?

Na – mae’r caniatâd ar gyfer Penrhos yn ‘annibynnol’, ac nid yn amodol ar ddatblygu Cae Glas neu Kingsland ar gyfer tai i weithwyr.

Pryd fydd y gwaith adeiladu yn digwydd ac am ba hyd fydd yn?

Nid yw hyn wedi’i benderfynu’n derfynol eto, ond ni fyddem yn disgwyl i’r gwaith adeiladu ar raddfa lawn ddechrau tan 2024 ar y cynharaf. Rydym yn rhagweld y bydd y prosiect adeiladu cyfan yn cael ei gyflwyno’n raddol gyda’r camau cyntaf yn cymryd dwy flynedd a’r cyfnod terfynol yn cymryd deuddeg mis ychwanegol.

Faint o swyddi sy’n cael eu rhagweld?

Gallai’r pentref hamdden greu 600 o swyddi gweithredol cyfwerth ag amser llawn newydd (450 ar y safle a 150 oddi ar y safle).

Pa fathau o swyddi fydd yn cael eu creu?

Bydd y datblygiad yn creu amrywiaeth eang o lwybrau gyrfa, gan gynnwys:

  • Rheolaeth gyffredinol
  • Rheoli cyfleusterau
  • Cynnal a chadw eiddo
  • Gwerthu a marchnata
  • Technoleg Gwybodaeth a datblygu gwe
  • Mân-werthu
  • Bwyd a Diod
  • Adloniant
  • Cydlynwyr Gweithgareddau Hamdden
  • Rheolwyr a therapyddion sba
  • Cadw Tŷ
  • Achubwyr bywyd
  • Tiroedd a’r Amgylchedd
  • Cyllid
Faint o swyddi adeiladu fydd yn cael eu creu?

Rydym yn amcangyfrif y bydd oddeutu 400 o swyddi cyfwerth ag amser llawn yn cael eu creu, am gyfnod adeiladu o 2–3 blynedd. Bydd ffocws ar gyflogi contractwyr lleol lle bynnag y bo modd, gyda rhaglenni prentisiaeth lleol.

Pa fuddion fydd ar gael i bobl leol?
  • Cyflogaeth gynaliadwy hirdymor nad yw’n dymhorol, ac amrywiaeth o gyfleoedd gyrfa sy’n addas i’r gweithlu lleol.
  • Rhaglenni hyfforddi sy’n gysylltiedig â cholegau lleol i ganiatáu i bobl ifanc gael mynediad i gyflogaeth barhaol gyda rhaglenni prentisiaeth.
  • Cynnal a chryfhau gwerth y Gymraeg drwy flaenoriaethu cyflogaeth leol. Bydd y gallu i siarad Cymraeg yn angenrheidiol ar gyfer swyddi hanfodol, cynigir hyfforddiant Cymraeg i bob gweithiwr, bydd pob dogfen, arwydd, enwau lleoedd a chyfleusterau’n ddwyieithog, gyda’r Gymraeg yn gyntaf.
  • Bwyty newydd ger glan y môr a dwy ganolfan ymwelwyr newydd, a thoiledau newydd.
  • Mynediad i 73 erw o dir a gynhelir, gan gynnwys 37 erw o goetir ym Mhenrhos, a 100 erw ychwanegol o Warchodfa Natur newydd yng Nghae Glas.
  • Bydd y cyfleusterau hamdden newydd ym Mhenrhos ar gael i’r gymuned leol ar sail aelodaeth.
  • Bydd gwariant eilaidd sylweddol gan dwristiaid a fydd yn ymweld â Chaergybi, gyda bws gwennol ar gael i gefnogi adfywiad canol y dref.
  • Bydd yn rhoi hwb i dwristiaeth yn Ynys Môn a Gogledd Cymru.
  • Bydd ein datblygiad yn helpu i atal llanw’r ieuenctid sy’n gadael Ynys Môn ac yn denu eraill yn ôl.
Beth fydd yn rhwystro pobl o’r tu allan rhag dod i’r Ynys i gymryd swyddi?

Ein nod yw creu swyddi i bobl leol. Byddwn yn sicrhau bod gennym strategaeth recriwtio gadarn gan ddefnyddio asiantaethau lleol ac yn annog ymgeiswyr lleol o’r farchnad lafur leol. Rydym am hyrwyddo profiad Cymreig go iawn, gan gynnwys iaith a diwylliant, felly mae’n gwneud synnwyr i ni recriwtio’n lleol.

Beth yn eich barn chi fydd effaith datblygiad o’r fath ar fusnesau lleol?

Yn gyffredinol, rydym yn rhagweld lefel isel o ddadleoli. Bydd Penrhos yn denu ymwelwyr sydd angen llety hunanarlwyo o ansawdd uchel gyda chyfleusterau dan do drwy gydol y flwyddyn. Ychydig iawn o wrthdaro ddylai fod â busnesau presennol.

Bydd pethau cadarnhaol: byddwn yn mynd ati i annog cysylltiadau â busnesau gweithgareddau a thwristiaeth ar yr ynys.

Mae manteision enfawr hefyd i’r gadwyn gyflenwi a fydd yn cael effaith luosog ar yr economi – rydym yn rhagweld 150 o swyddi parhaol pellach o’r effaith hon ar y gadwyn gyflenwi yn unig.

Ni fydd canran benodol o’r datblygiad, yn ddealladwy, ar gael i’r cyhoedd. Beth fydd gan y cyhoedd fynediad iddo o ran Parc Arfordirol Penrhos a’i gyfleusterau?

Bydd y datblygiad newydd yn golygu cynnydd o 30% yn y tir sydd ar gael i’r cyhoedd. Ym Mharc Arfordirol Penrhos, bydd 73 erw yn cael eu cadw i’r cyhoedd eu mwynhau. Gyda mynediad newydd i 100 erw ychwanegol yng Ngwarchodfa Natur Cae Glas, bydd cyfanswm o 173 erw o dir ar gael i’r cyhoedd.

Bydd bwyty newydd ger y traeth a chaffi mewn tŷ chychod ar y glannau ar agor i’r cyhoedd, a bydd canolfan ymwelwyr newydd ar gael ym Mharc Arfordirol Penrhos. Bydd yn cynnwys cyfleuster dehongli / cymunedol.

Mae yna ardal o dir llygredig yng Nghae Glas – a yw’n ddiogel i’r cyhoedd, a sut bydd y tir llygredig hwn yn cael ei reoli?

Ar ôl monitro helaeth dros nifer o flynyddoedd, canfuwyd bod Cae Glas yn gwbl ddiogel ar gyfer mynediad i’r cyhoedd.

Rydym wedi comisiynu amryw o arolygon llygredd yng Nghae Glas ers 2014. Mae’r rhain yn cynnwys ymchwiliad manwl ac ymwthiol i fonitro’r safle am gyfnod o 12 mis a gynhaliwyd gan ein peirianwyr ymgynghorol, Geo-Environmental yn dilyn ymgynghoriad â Chyfoeth Naturiol Cymru (CNC). Cwblhawyd yr archwiliad safle sylweddol hwn ym mis Rhagfyr 2019.

Oherwydd bod y lefelau llygredd mewn perthynas â thrwytholchion wedi lleihau’n naturiol, a’r lefelau isel iawn o nwyon a oedd yn cael eu rhyddhau heb unrhyw risg i iechyd, cytunodd CNC mai’r strategaeth briodol oedd peidio â gwneud unrhyw waith adfer ymwthiol, oherwydd nad oedd unrhyw reswm neu angen i wneud hynny, ac nad oedd angen unrhyw waith archwilio na monitro pellach.

Ym mis Awst 2020, cymeradwyodd Cyngor Sir Ynys Môn y strategaeth hon, drwy gyhoeddi ‘Hysbysiad o Benderfyniad’ mewn perthynas â Rhan 5 o Atodlen 8 ein cytundeb cynllunio Adran 106.

Bydd yr ychydig ddeunydd llygredig yn safle tirlenwi Cae Glas yn aros ble y mae heb amharu arno. Mae hyn yn ymarfer arferol ar gyfer llygredd nad yw’n achosi unrhyw risg. Mae’r safle tirlenwi eisoes wedi’i gapio â phridd, sydd bellach yn goetir ac yn darparu amgylchedd naturiol sy’n addas ar gyfer ei ddefnydd arfaethedig fel gwarchodfa natur gyda chanolfan ymwelwyr fechan.

Ar hyn o bryd, nid oes cyswllt rhwng Penrhos a Chae Glas dros yr A5, yr A55 a’r rheilffordd. Sut fydd hyn yn gweithio?

Bydd gwasanaeth bws gwennol ar gyfer gwesteion yn rhan o’r datblygiad.

Ar gyfer cerddwyr, rydym yn cynnig creu llwybr troed o Benrhos i’r A5, ac yna defnyddio’r bont ffordd / rheilffordd bresennol dros yr A55 o’r gylchfan newydd arfaethedig i alluogi mynediad i warchodfa Natur newydd Cae Glas.

Pa gyfleusterau chwaraeon dŵr fydd ar gael i’r cyhoedd ym Mhenrhos?

Nofio a phadlo, a defnyddio badau heb injan – e.e. canŵs, caiacs, dingis hwylio, padlfyrddau a hwylfyrddau.

A fydd y cyhoedd yn parhau i gael mynediad am ddim i’r arfordir o amgylch Penrhos?

Byddant, bydd mynediad i Lwybr Arfordirol Ynys Môn yn parhau i gael ei wella. Mae Land & Lakes bellach wedi dynodi Llwybr yr Arfordir yn ‘Hawl Tramwy Cyhoeddus’ drwy gytundeb ffurfiol gyda Chyngor Sir Ynys Môn.

Sut byddwch chi’n gwarchod ac yn gwella’r Gymraeg?

Mae hwn yn gynllun ar gyfer cyflogaeth leol yn bennaf. Bydd y Gymraeg yn hanfodol ar gyfer swyddi allweddol. Bydd Cynllun Iaith Gymraeg yn cael ei ddatblygu a’i gytuno gyda Chyngor Sir Ynys Môn a Llywodraeth Cymru.

Bydd pob gair ysgrifenedig yn ddwyieithog gyda’r Gymraeg yn gyntaf. Bydd hyn yn berthnasol i ddogfennau, arwyddion, enwau strydoedd, ac enwau cyfleusterau. Bydd staff yn cael eu hannog i ddefnyddio cyfarchion Cymraeg, a bydd hyfforddiant Cymraeg ar gael i’r holl staff. Byddwn hefyd yn datblygu arddangosfeydd hanes lleol dwyieithog ar gyfer ein canolfan ymwelwyr, er mwyn atgyfnerthu cymeriad unigryw’r lleoliad Cymreig hwn ymhellach.

Mae dyfroedd arfordirol Penrhos wedi’u dynodi’n Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig – beth fydd yn cael ei wneud i ddiogelu’r ardal hon?

Mae dyfroedd arfordirol Penrhos yn SoDdGA – Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig – a hynny oherwydd yr adar môr sy’n dod i fwydo ar wastadeddau llaid y draethlin.

Mae arolygon ecoleg wedi dangos bod adar môr yng Nghae Glas yn sensitif i aflonyddwch dynol sylweddol. Mae hyn wedi gyrru ein penderfyniad i greu gwarchodfa natur gyda mynediad wedi’i reoli, wardeiniaid a chuddfannau i ganiatáu gwylio adar. Bydd rheolaeth lem ar unrhyw weithgareddau ar y draethlin neu’r dŵr yma.

Mae Penrhos yn cynnwys cynigion i weithredu cyfleusterau hamdden heb foduron, sy’n seiliedig ar ddŵr, o ben gogleddol Penrhos y tu allan i SoDdGA Beddmanarch – Cymyran.

Bydd cytundeb rheoli yn sicrhau y bydd y SoDdGA yn cael ei drin fel parth gwaharddedig ar gyfer gweithgareddau hamdden ar ddŵr.

Beth sy’n cael ei wneud i sicrhau diogelwch bywyd gwyllt a phlanhigion sydd mewn perygl yn ystod y cyfnod adeiladu ac yn y tymor hir?

Cynhaliwyd arolygon ecoleg manwl ar gyfer y cais cynllunio, ac mae hyn yn parhau i gael ei arolygu i asesu’r bywyd gwyllt presennol. Mae’r arolygon hyn ar gyfer gwiwerod coch, adar bridio, adar sy’n gaeafu, amffibiaid, ymlusgiaid, ystlumod, moch daear, a llygod y dŵr. Rydym wedi cynllunio gwaith adeiladu yn yr ardaloedd lleiaf sensitif i leihau’r aflonyddwch ar fywyd gwyllt.

Mae Land & Lakes a’n hecolegwyr ymgynghorol wedi ymgynghori’n helaeth â Chyngor Sir Ynys Môn a Chyfoeth Naturiol Cymru (CNC). Bydd yr ymgynghori hwn yn parhau yn ystod pob cam o’r gwaith dylunio manwl, adeiladu, cwblhau a defnyddio’r datblygiad. Mae rhwymedigaethau a gweithdrefnau ar gyfer gwneud gwaith wedi’u sefydlu drwy’r broses ymgynghori hon ac fe’u diffinnir yn ein caniatâd a’n rhwymedigaethau cyfreithiol cysylltiedig.

Mae Clerc Gwaith Ecolegol wedi’i benodi i fonitro bywyd gwyllt yn ystod y cyfnod adeiladu. Mae ein dull adeiladu graddol yn caniatáu creu cynefinoedd amgen ymlaen llaw, a bydd mwy o wasanaeth wardeniaid lleol i gefnogi hyn.

Bydd Pentref Hamdden Penrhos yn ddatblygiad amgylcheddol sensitif sy’n annog gwesteion i werthfawrogi bywyd gwyllt yr ardal.

Beth sy’n cael ei wneud i sicrhau diogelwch gwiwerod coch ym Mhenrhos a Chae Glas?

Mae gwiwerod coch yn nodwedd bwysig o fywyd gwyllt Ynys Môn, yn enwedig ym Mhenrhos a Chae Glas. Er ein bod am i’n gwesteion fwynhau gweld y boblogaeth o wiwerod coch, ein blaenoriaeth yw cynnal a gwella eu cynefin.

Mewn ymgynghoriad â chynghorwyr arbenigol yn dilyn monitro rheolaidd, rydym yn bwriadu gwella a chryfhau’r boblogaeth bresennol o wiwerod coch trwy gyflwyno anifeiliaid ychwanegol i ehangu’r pwll genynnau presennol. Bydd hyn yn helpu i annog poblogaeth gynaliadwy o wiwerod coch ym Mhenrhos a Chae Glas.

Mae’n flaenoriaeth o ran cadwraeth natur i ddarparu mwy o amrywiaeth o adnoddau bwydo ar gyfer y boblogaeth o wiwerod coch a gyflwynwyd yng Nghae Glas a Pharc Arfordirol Penrhos. Mae hyn oherwydd bod llawer o’r gorchudd coed sy’n gysylltiedig â gwarchodfa natur arfaethedig Cae Glas a Pharc Arfordirol Penrhos gerllaw yn cynnwys pinwydd a sycamorwydden Corsicaidd, sydd o werth isel fel adnodd bwydo ar gyfer gwiwerod coch. Ein cynllun yw cynyddu amrywiaeth strwythurol a rhywogaethau trwy blannu amrywiaeth o goed llydanddail. Bydd coed y gwyddys eu bod yn darparu cyfleoedd bwydo ar gyfer gwiwerod coch a fydd yn cael eu defnyddio yn ein hardaloedd plannu coetir yn cynnwys pinwydden yr Alban, coed cyll, coed castan pêr, coed derw holm a choed cyll Ffrengig.

Beth fydd yn digwydd i’r holl glychau’r gog a’r eirlysiau hardd ym Mhenrhos?

Mae clychau’r gog brodorol yn rhywogaeth warchodedig o dan y Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad, felly byddant yn cael eu gwarchod yn llawn yn ystod y cyfnod adeiladu. Bydd clychau’r gog brodorol mewn ardaloedd i’w datblygu yn cael eu trosglwyddo i ardaloedd eraill yn y coetir sy’n hygyrch i’r cyhoedd. Penderfynwyd ar leoliad clychau’r gog brodorol, clychau’r gog anfrodorol, a’r holl fflora eraill, yn dilyn arolygon manwl a gynhaliwyd gan ymgynghorwyr ecoleg medrus. Bydd samplau pridd yn cael eu trawsleoli ynghyd â chlychau’r gog a’r fflora, er mwyn sicrhau trosglwyddiad llwyddiannus.

Mae ein cynlluniau’n cynnwys plannu rhywogaethau brodorol ychwanegol o flodau gwyllt coetir i gynyddu amrywiaeth y fflora coetir sydd ar gael a’i gwneud yn fwy deniadol i gerddwyr sy’n ymweld.

Er nad yw’r eirlysiau yn rhywogaeth leol ac er nad ydynt wedi’u gwarchod, mae’r lleoliadau wedi’u mapio’n ofalus a byddwn yn trawsleoli cymaint â phosibl.

Mae Gorchmynion Diogelu Coed ar safle Penrhos. Faint o goed ydych chi’n bwriadu eu torri i lawr, a faint fydd yn cael eu hailblannu / eu trawsblannu?

Bydd ein prif ddatblygiad mewn ardaloedd glaswelltir agored, ac ar dir ystâd a lleiniau sydd eisoes wedi’u datblygu.

Bydd unrhyw ddatblygiad mewn ardaloedd sensitif yn cael ei adeiladu mewn clystyrau, er mwyn amharu cyn lleied ag sy’n bosibl ar y coed. Byddai sylfeini ar gyfer cabanau sy’n agos at goed yn rhai effaith isel, er mwyn osgoi difrod i wreiddiau’r coed. Pan fydd y blanhigfa bresennol yn cael ei symud bydd ar raddfa fach a lleol. Byddwn yn cynnal cymeriad ardaloedd o goetir a gorchudd coed.

Rydym yn ystyried coed fel ased naturiol pwysig, ac yn rhan annatod o weledigaeth a llwyddiant hirdymor ein datblygiad, felly rydym yn canolbwyntio ar warchod ac integreiddio yn hytrach nag amnewid. Byddwn yn plannu mathau ychwanegol o goed o rywogaethau brodorol i wneud iawn am unrhyw golledion coed na ellir eu hosgoi, a bydd gwell rheolaeth ar blanhigfeydd yn sicrhau hirhoedledd y coed a gedwir.

Mae’r coetir presennol yn cynnwys cyfran o goed ynn sydd, fel mewn mannau eraill yn y DU, wedi’u heffeithio gan glefyd coed ynn. Yn anffodus, dros nifer o flynyddoedd, mae’r clefyd hwn nad oes modd ei reoli yn debygol o ladd y rhan fwyaf o’r coed ynn ar y safle hwn. Mae’r mater hwn yn cael ei fonitro a’i reoli gan ein cwmni rheoli tir ymgynghorol, gyda chefnogaeth cynghorwyr Coedyddiaeth. Yn anffodus, mae’n anochel y bydd raid cael gwared ar goed sydd wedi marw ac sy’n beryglus ond fe wneir iawn am hyn drwy ailblannu rhywogaethau brodorol eraill i ehangu’r cymysgedd o fathau o goed a fydd yn tyfu yn y coetiroedd ym Mhenrhos a Chae Glas.

A fydd eich cynnig yn cael effeithio ar unrhyw goed yn y Coetir Hynafol?

Na – nid yw ein cynigion datblygu yn effeithio ar unrhyw goed o fewn y Coetir Hynafol a hynny’n unol â’n hymgynghoriad a’n cytundeb gyda CNC.

Onid ydych chi’n mynd i ddifetha’r AHNE – yr atyniad allweddol i Ynys Môn?

Credwn y bydd yr AHNE yn cael ei wella gyda rheolaeth well i gynnal mwy o amrywiaeth o rywogaethau. Bydd ein cynllun yn sensitif ac yn barchus o’r amgylchedd gan fod hyn yn rhan allweddol o atyniad y safle. Rydym wedi bod yn cynnal a chadw Parc Arfordirol Penrhos fel y mae ar gyfer amwynder cyhoeddus am y 10 mlynedd diwethaf (gyda Metelau Alwminiwm Ynys Môn (AAM) am 5 mlynedd i ddechrau, ac yna ar ein pennau ein hunain am y 5 mlynedd diwethaf). Mae hyn wedi cael ei groesawu gan y gymuned leol.

Pam ydych chi’n meddwl bod Ynys Môn yn addas gyfer datblygiad ar y raddfa hon a pha ymchwil sydd wedi’i wneud?

Cynhaliodd Colliers International Destination Consulting, a Regeneris, ymchwil helaeth i’r galw am, ac addasrwydd y safle ar gyfer cyrchfan dwristiaeth o’r fath. Mae’r safle’n gallu cynnal cynllun mwy ecogyfeillgar na’r rhan fwyaf o safleoedd eraill yng Ngogledd Cymru.

Mae gan Ynys Môn gysylltiadau seilwaith gwych (ffyrdd, rheilffyrdd a phorthladd fferi), gan gynnwys dalgylch poblogaeth o tua 20 miliwn o bobl a fedr deithio yma o fewn 3 awr. Mae gan Ynys Môn 125 milltir o arfordir gyda diwylliant a hanes hynod ddiddorol – mae Ynys Gybi ei hun yn ynys, oddi ar ynys, oddi ar ynys.

Pam mae twristiaeth yn bwysig i Ynys Môn a beth ddangosodd ymchwil DMP?

Fel y sector economaidd mwyaf ar yr ynys, mae twristiaeth yn cyfrannu’n sylweddol at ffyniant lleol ac ansawdd bywyd yn Ynys Môn. Mae’n cynhyrchu mwy na £360m ar gyfer economi’r ynys, gan gefnogi dros 3,600 o swyddi yn uniongyrchol*. Mae cannoedd o fusnesau lleol yn dibynnu ar wariant ymwelwyr ar yr ynys.

Fodd bynnag, mae bregusrwydd sylfaenol i economi Ynys Môn, sy’n cael ei nodweddu gan lefelau uwch na’r cyfartaledd o ddiweithdra ac amddifadedd cymdeithasol. Mae argaeledd tai fforddiadwy wedi cael ei effeithio gan y twf esbonyddol mewn llety rhent ar gyfer gwyliau ac AirBnBs, ac o ganlyniad, mae llawer o bobl ifanc yn gadael yr ynys i chwilio am waith a thai fforddiadwy mewn mannau eraill.

Bydd Pentref Hamdden Penrhos yn helpu i fynd i’r afael â rhai elfennau o’r bregusrwydd hwn yn yr economi leol. Fel busnes a chyrchfan i ymwelwyr a fydd ar agor drwy’r flwyddyn, bydd y pentref hamdden yn darparu canran fawr o swyddi parhaol drwy gydol y flwyddyn.

Bydd strategaeth recriwtio ragweithiol yn blaenoriaethu pobl leol a siaradwyr Cymraeg. Yn ogystal â chyfleoedd cyflogaeth a hyfforddiant ar y safle, bydd y cynnydd cysylltiedig mewn gwariant ymwelwyr yn cefnogi busnesau ‘cartref’ ar Ynys Môn gan gynnwys crefftwyr lleol, manwerthwyr, caffis, bwytai, tafarndai, darparwyr antur a gweithgareddau.

*Ffigurau Cynllun Rheoli Cyrchfan Cyngor Sir Ynys Môn 2023

Sut mae hyn yn cyd-fynd â Strategaeth Twristiaeth Ranbarthol Gogledd Cymru?

Mae’r Strategaeth Twristiaeth Ranbarthol Gogledd Cymru yn pwysleisio’r angen i hyrwyddo cryfderau unigryw Ynys Môn, i fuddsoddi mewn rhagoriaeth cynnyrch, i ddarparu profiad rhagorol i ymwelwyr ac i gydweithio mewn partneriaeth â rhanddeiliaid lleol.

Mae’r strategaeth yn canolbwyntio ar yr angen am frandio unigryw, sicrhau bod yr hyn a gynigir o ansawdd uwch, mynediad haws, gwell sgiliau a phartneriaeth gryfach i ‘Gyflawni Ein Potensial’.

Mae gan Ynys Môn botensial i wneud yr holl bethau hyn gan fod ganddi’r adnoddau naturiol rhagorol y mae’r farchnad yn chwilio amdanynt.

We would like to share answers to our most frequently asked questions. We hope these are useful to anyone who is interested in our development plans for Penrhos & Cae Glas.

English

What is the Proposed development at Penrhos & Cae Glas?

In 2016, following extensive consultation with the Isle of Anglesey County Council, Land & Lakes acquired the Penrhos Estate, inclusive of Penrhos Coastal Park, with planning consent to develop a leisure village.

The planning consent includes additional leisure accommodation and a publicly accessible nature reserve at nearby Cae Glas, and 320 new houses at nearby Kingsland, 50% of which will be made available for local people as affordable homes.

The new development will increase the total area of publicly accessible land by 30%. At Penrhos Coastal Park, 73 acres will be preserved for the public to enjoy. With new access to an additional 100 acres at Cae Glas Nature Reserve, the total area available for the public will be 173 acres.

What are the objectives?

With outdoor and indoor facilities, and established connections to island-wide activity providers, the leisure village will provide year-round short breaks for families and couples. It will appeal to anyone who enjoys being active in a beautiful natural environment and will deliver a quality visitor experience on Ynys Môn.

Our aim is to bring people closer to nature, to give them an authentic experience of the great Welsh outdoors. Every detail of our scheme has been carefully planned to conserve the character of Ynys Môn’s exceptional natural environment.

We will maintain and retain much of the existing public access currently enjoyed by the local community, including to the woodlands and nature trails. There will be enhanced public access to the beaches and coast, and the Anglesey Coastal Path.

Our development will provide a wide range of sustainable jobs and training opportunities, from countryside management through to marketing and hospitality. We value good local and regional knowledge. The leisure village will support local businesses directly, as well as through the local supply chain, and will help Ynys Môn’s economy to grow and prosper for many more years to come.

Does the scheme have Planning Approval?

Yes – a Decision Notice was issued in 2016 for the approval of the scheme with the first Reserved Matter approved in August 2020 for works in Penrhos Coastal Park.

An effective start to the development at Penrhos was made in 2021, which means the planning permission for the site is now held in perpetuity.

Is Planning Consent for the leisure scheme at Penrhos Coastal Park conditional on Cae Glas and Kingsland being developed to house Wylfa workers?

No – the approval for Penrhos (with a new Nature Reserve at Cae Glas) is ‘standalone’ and not conditional on housing Wylfa workers at Cae Glas or Kingsland.

Do the conditions & s106 obligations relating to housing Wylfa workers impact on the development of the Penrhos leisure scheme?

No – the conditions, and s106 obligations are separated out for each parcel of land. All s106 obligations will be discharged fully as dictated in the planning consent.

Do you have to develop out all 3 sites (Penrhos, Cae Glas & Kingsland) at the same time?

No – the approval for Penrhos is ‘standalone’, and not conditional on developing Cae Glas or Kingsland for housing workers.

When will the development construction take place and how long will it go on for?

This has yet to be finalised, but we would not expect full scale development construction to start until 2024 earliest. We envisage that the whole construction project will be phased with the first phase taking two years and subsequent phases to be advised.

How many jobs are forecast?

The leisure village could create 600 new full time equivalent (FTE) operational jobs (450 on site and 150 off site).

What types are jobs will be created?

The development will generate a whole variety of career paths, including:

  • General management
  • Facilities management
  • Property maintenance
  • Sales & marketing
  • Information Technology and web development
  • Retail
  • Food & Beverage
  • Entertainment
  • Leisure Activities Coordinators
  • Spa managers and therapists
  • Housekeeping
  • Lifeguards
  • Grounds & Environment
  • Finance
How many construction jobs will be created?

We estimate this to be around 400 FTE jobs, for a 2–3-year construction period. There will be a focus on employing local contractors wherever possible, with local apprenticeship programmes.

What benefits will there be for locals?
  • Long term non-seasonal sustainable employment, and a range of career opportunities to suit the local workforce.
  • Training programmes linked to local colleges to allow young people to access permanent employment with apprenticeship programmes.
  • Upholding and strengthening the value of the Welsh language by prioritising local employment. There will be a spoken Welsh obligation to essential posts, Welsh language training offered to all employees, bilingual text on all documents, signage, place names and facilities, with Welsh first.
  • New seaside restaurant and two new visitor centres, and new toilets.
  • Access to 73 acres of maintained land, including 37 acres of woodland at Penrhos, and an additional 100 acres of new Nature Reserve at Cae Glas.
  • The new leisure facilities at Penrhos will be available to the local community on a membership basis.
  • There will be significant secondary spend from tourists visiting Holyhead, with a shuttle bus available to support the regeneration of the town centre.
  • There will be a tourism boost for Ynys Môn and North Wales.
  • Our development will help stem the tide of youth leaving Ynys Môn and attract others back.
What is to stop outsiders coming to the island to take the jobs?

Our ambition is to create jobs for local people. We will ensure that we have a robust recruitment strategy using local agencies, encouraging local applicants from the local labour market. We want to promote an authentically Welsh experience, including language and culture, so it makes sense to recruit locally.

How do you see the effect of such a development on local businesses?

Overall, we anticipate a low level of displacement. Penrhos will attract visitors requiring high quality self-catering accommodation with year-round indoor facilities. There should be little conflict with existing businesses.

There will be positives: we will actively encourage links to activity and tourist businesses on the island.

There are also huge supply chain advantages which will have a multiplier effect on the economy – we predict a further 150 permanent jobs from this supply chain effect alone.

A certain percentage of the development will understandably be out of bounds to the public. What will the public have access to in terms of both the nature park and its facilities?

The new development will increase the total area of publicly accessible land by 30%. At Penrhos Coastal Park, 73 acres will be preserved for the public to enjoy. With new access to an additional 100 acres at Cae Glas Nature Reserve, the total area available for the public will be 173 acres.

A new beach restaurant and waterside boathouse café would be open to the general public, and a new visitor centre will be made available at Penrhos Coastal Park. It will include an interpretation / community facility.

There is an area of contamination identified at Cae Glas – is it safe for public access, and how will this area of contamination be managed?

After extensive monitoring undertaken over a number of years, Cae Glas has been found to be perfectly safe for public access.

We have commissioned various contamination surveys at Cae Glas since 2014. These include a detailed 12-month intrusive site monitoring investigation undertaken by our consultant Geo-Environmental Engineers following consultation with Natural Resources Wales (NRW). This substantial site investigation was completed in December 2019.

Due to the naturally diminished levels of contaminants within leachate, and very low levels of gas discharge offering no risk to health, NRW agreed that the appropriate strategy was not to undertake any intrusive remediation work, as such work was not warranted or necessary, and no further investigation or monitoring was required.

In August 2020 Anglesey County Council approved this strategy, by issue of a ‘Notice of Decision’ in respect of Part 5 of Schedule 8 of our Section 106 planning agreement.

The limited contamination material within the Cae Glas landfill site will remain in-situ and undisturbed. This is normal practice for contamination which is causing no risk. The landfill has been previously capped with soil, which is now a woodland and provides a natural environment suitable for its proposed use as a nature reserve with a lightweight visitor centre.

Penrhos and Cae Glas do not currently link together over the A5, A55 & railway. How will this work?

There will be a shuttle bus links for guests as part of the development.

For pedestrians, we propose to create a footpath from Penrhos to the A5, and then use the existing road / rail bridge over the A55 from the proposed new roundabout to enable access to the new Cae Glas Nature reserve.

What water sports facilities will be available for the public at Penrhos?

Swimming and paddling, and use of non-motorised craft – eg: canoe, kayak, sailing dinghy, paddle-boarding and windsurfing.

Will there still be free total access to the coastline around Penrhos for the public?

Yes, access to the Anglesey Coastal Path will continue to be improved. Land & Lakes has now designated the Coastal Path as ‘Public Right of Way’ by formal agreement with Anglesey County Council.

How will you protect and enhance the Welsh Language?

This is a scheme predominantly for local employment. Welsh language will be essential for key posts. A Welsh Language Scheme will be developed and agreed with Anglesey County Council and Welsh Government.

All written word will be bilingual with Welsh first. This will apply to documents, signage, street names, and facility names. Staff will be encouraged to use of Welsh language greetings, and Welsh language training will be made available to all staff. We will also develop bilingual local history displays for our visitor centre, to further reinforce the unique character of this Welsh location.

The Penrhos coastal waters are designated a SSSI – what will be done to protect this area?

The Penrhos coastal waters are a SSSI – Site of Special Scientific Interest – on account of the seabirds which come to feed on the mudflats of the shoreline.

Ecology surveys have shown seabirds at Cae Glas to be sensitive to significant human disturbance. This has driven our decision to create a nature reserve with controlled access, wardens, and hides to allow bird watching. There will be strict control of any shoreline and water-based activities here.

Penrhos includes proposals to operate non-motorised, water-based, recreation facilities from the north end of Penrhos outside of the Beddmanach – Cymyran SSSI.

A management agreement will ensure that the SSSI will be treated as a prohibited zone for water-based recreation activities.

What is being done to ensure the safeguarding of endangered wildlife and plant life both during the building phase and in the long term?

Detailed ecology surveys were carried out for the planning application, and this continues to be surveyed to assess existing wildlife. These surveys are for red squirrels, breeding birds, over-wintering birds, amphibians, reptiles, bats, badgers, and water voles. We have planned construction in the least sensitive areas to minimise disturbance to wildlife.

Consultation with both Anglesey County Council and Natural Resources Wales (NRW) by Land & Lakes and our consultant ecologists has been extensive. It will remain ongoing during all stages of detailed design, construction, completion, and use of the development. Obligations and procedures for undertaking work have been established by this consultation process and are defined within our approval and associated legal obligations.

An Ecological Clerk of Works has been appointed to monitor wildlife during building phase. Our phased construction approach allows the creation of alternate habitats in advance, and there will be an increased local warden service to support this.

Penrhos Leisure Village will be an environmentally sensitive development that encourages guests to appreciate the wildlife of the area.

What is being done to ensure the protection of red squirrels at Penrhos and Cae Glas?

Red squirrels are an important feature of Anglesey’s wildlife, particularly at Penrhos and Cae Glas. Whilst we want our guests to enjoy seeing the red squirrel population, our priority is to maintain and enhance their habitat.

In consultation with specialist advisors following regular monitoring, we plan to enhance and strengthen the existing red squirrel population by the introduction of additional animals to widen the existing gene pool. This will help to encourage a sustainable red squirrel population at both Penrhos and Cae Glas.

It is a nature conservation priority to provide an increased diversity of feeding resource for the introduced red squirrel population at Cae Glas and Penrhos Coastal Park. This is because much of the tree cover associated with the proposed Cae Glas nature reserve and the adjacent Penrhos Coastal Park is composed of Corsican pine and sycamore, which are of low value as a feeding resource for red squirrels. Our plan is to increase structural and species diversity by planting a range of broadleaved tree species. Trees known to provide feeding opportunities for red squirrel which will be used in our woodland planting areas will include Scots pine, hazel, sweet chestnut, English oak, holm oak and walnut.

What will happen to all the beautiful bluebells and snowdrops at Penrhos?

Native bluebells are a protected species under the Wildlife and Countryside Act, so they will be fully protected during the construction phase. Native bluebells in areas for development will be translocated to other areas within the publicly accessible woodland. The location of native bluebells, non-native bluebells, and all other flora, has been established by detailed surveys undertaken by skilled ecology consultants. Soil samples will be translocated along with the bluebells and flora, to ensure successful movement.

Our plans include planting additional native woodland wildflower species to increase the diversity of the woodland flora and make it more attractive to visiting walkers.

Although snowdrops are not a local species and not protected, the locations have been carefully mapped and we will translocate as many as possible.

Will you be proposing to fell any trees within Ancient Woodland?

No – our development proposals do not impact any trees within Ancient Woodland as consulted and agreed with NRW.

Aren’t you going to ruin the AONB – the key attraction for Anglesey?

We believe that the AONB will be enhanced with better management to maintain a better diversity of species. Our scheme will be sensitive and respectful of the environment as this is a key part of the attraction of the site. We have been maintaining the existing Penrhos Coastal Park for public amenity for the last 10 years (with Anglesey Aluminium Metals (AAM) for an initial 5 years, and then solely for the last 5 years). This has been welcomed by the local community.

Why do you think Anglesey is suitable for this scale of development and what research has been done?

Colliers International Destination Consulting, and Regeneris, carried out extensive research into demand and suitability of the site for such a tourism destination. The site is capable of sustaining a more environmentally friendly scheme than most others in North Wales.

Ynys Môn has superb infrastructure links (road, rail and ferry port), including a population catchment of circa 20 million people within a 3-hour travel time. Ynys Môn has 125 miles of coastline with a fascinating culture and history – Holy Island is itself an island, off an island, off an island.

Why is tourism important to Anglesey and what did DMP research show?

As the biggest economic sector on the island, tourism contributes significantly to local prosperity and quality of life on Ynys Môn. Annually, it generates more than £360m to the island’s economy, directly supporting more than 3,600 jobs*. Hundreds of local businesses rely on visitor spend on the island.

There is, however, an underlying fragility to the economy on Ynys Môn, which is characterised by higher-than-average levels of unemployment and social deprivation. The availability of affordable housing has been impacted by the exponential growth in holiday rentals and AirBnBs, and consequently many young people are leaving the island to look elsewhere for employment and affordable housing.

Penrhos Leisure Village will help to add to address some of these fragilities in the local economy. As a year-round operation and visitor destination the leisure village will provide a large percentage of permanent year-round jobs.

A proactive recruitment strategy will prioritise local people and Welsh language speakers. As well as on-site employment and training opportunities, the associated increase in visitor spend will support home-grown businesses on Ynys Môn including local artisans, retailers, cafés, restaurants, pubs, adventure and activity providers.

*Figures from Isle of Anglesey County Council Destination Management Plan 2023

How does this fit with the North Wales Regional Tourism Strategy?

The NWRTS emphasises the need to promote Ynys Môn’s distinctive strengths, to invest in product excellence, to provide an outstanding experience for visitors and to work together in partnership with local stakeholders.

‘The strategy focuses on the need for distinctive branding, higher quality offerings, easier access, better skills and stronger partnership to ‘Achieve Our Potential’.

Ynys Môn has potential to do all of these things because it has the excellent natural resources that the market is looking for.